Melin Trefin

Nyd yw'r felin heno'n malu
Yn Nhrefin ar min y mor,
Trodd y merlyn olaf adre'
Dan ei bwn o drothwy'r ddor,
Ac mae'r rhod fu gynt yn rhagnu
Ac yn chwyrnu drwy y fro,
Er pan farw'r hen felinydd,
Wedi rhoi ei olaf dro.

Rhed ffrwd garedig eto
Gyda thalcen noeth y ty,
Ond' ddaw neb ir fal a'I farlys,
A'r hen olwyn fawr ni thry;
Lle oedd gwenith gwyn Llanrhian
Derfyn haf yn llwythi cras,
Ni cheir mwy ond tres o wymon
Gydag ambell frwynen las.

Segyr faen sy'n gwilio'r fangre
Yn y curlaw mawr a'r gwynt,
Dilythyren garreg goffa
O'r amseroedd difyr gynt;
Ond' does yma neb yn malu,
Namyn amser swrth a'r hin
Wrthi'n chwalu ac yn malu,
Malu'r felin yn Nhrefin.


Archdruid Crwys

Jump back with the bunny

Poem copyright of Archdruid Crwys. Page put together by & copyright of Yobunny
September 1999. Updated August 2006